Tramffordd Y Gogarth | Great Orme Tramway

Croeso i Dramffordd Llandudno ...

Taith mewn steil

Mae Tramffordd y Gogarth wedi swyno teithwyr ers iddi agor gyntaf ar Orffennaf 31ain 1902. Yn ei oes roedd yn wyrth peiriannegol, a heddiw Tramffordd y Gogarth ydi'r unig system dramiau cebl sy'n dal i weithredu ar ffyrdd cyhoeddus Prydain.

Restored Great Orme Tram

Cymrwch seibiant ar y ffordd i fyny i edrych ar arddangosfa'r Orsaf Ganol, lle gewch chi gyfle i ddysgu ychydig o hanes hynod y Dramffordd cyn mynd yn eich blaen ar weddill y daith wych i'r copa.

Dyma gyfle i brofi ffordd o deithio sy'n fwy na 100 mlwydd oed, a hynny yn y cerbydau gwreiddiol, pob un wedi ei adnewyddu'n ofalus a'i enwi ar ôl un o'r saint. Mae'r Dramffordd i gyd wedi ei adnewyddu ac yn barod am gan mlynedd arall o wasanaeth.

  • Gwybodaeth i Deithwyr
  • Hanes y Dramffordd
  • Gwybodaeth i Ysgolion
  • Sut mae hi'n gweithio
The Great Orme