Datganiad Mynediad
Cyrraedd yno
Mewn Car
Mae digon o le parcio yng nghanol tref Llandudno ar gyfer Gorsaf Fictoria. Prin iawn yw lle i barcio wrth Orsaf Fictoria oherwydd ffyrdd cul a pharcio i drigolion lleol, fodd bynnag, gellir gollwng ymwelwyr tu allan i Orsaf Fictoria (Church Walks).
Nid oes unrhyw gyfleusterau parcio wrth yr Orsaf Hanner Ffordd.
Mae’r Orsaf ar y Copa ger y Maes Parcio ar y Copa sy’n wastad ac yn ymarferol gyda llefydd parcio ar gael yn agos at yr orsaf ac sy’n rhoi mynediad addas i’r anabl ac i unigolion mewn cadeiriau olwyn.
Ar Gludiant Cyhoeddus
Mae gwasanaeth bws cyhoeddus i’r Copa – Bws Arriva Rhif 25. Gellir dal y bws o’r arhosfan bws y tu allan i M&Co ar Gloddaeth Avenue (nid yw’n rhedeg ar ddydd Sul nac ar Ŵyl y Banc).
Hygyrchedd
Y Swyddfa Docynnau a phlatfform tram Gorsaf Fictoria
Mae grisiau ger mynedfa’r orsaf, y bydd teithwyr yn eu defnyddio i gyrraedd y swyddfa docynnau.
Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a phramiau ddod i mewn i’r orsaf drwy’r Hen Ffordd (Old Road).
Mae meinciau ar y platfform ar gyfer teithwyr sy’n aros am y tram.
Mynediad i Gerbydau’r Tram
Rhaid dringo i fyny tri gris serth i gyrraedd y mynediad i’r tramiau. Gall staff gynorthwyo unigolion ar y cerbydau os oes angen. Mae Cerbydau’r Tramiau yn agored i’r elfennau, nid oes ffenestri ar y cerbydau felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad addas.
Wrth gamu oddi ar y cerbyd yn yr Orsaf Hanner Ffordd bydd mynediad i’r tram nesaf ar rodfa lydan sy’n cynnig golygfeydd o’r tŷ weindio a hysbysfyrddau llawn gwybodaeth sy’n olrhain hanes y tram. Mae seddi ar gael wrth i chi aros am eich tram.
Cadeiriau olwyn
Dim ond lle i 2 gadair olwyn neu 2 bram a geir ar bob tram. Os bydd eich tram yn llawn yna gofynnir yn garedig i chi adael eich cadair olwyn yng Ngorsaf Fictoria. Fel arall, efallai bydd yn rhaid i chi aros am y tram nesaf.
Yn anffodus, ni ellir caniatáu cadeiriau olwyn/sgwteri trydan oherwydd dyluniad ac adeiladwaith Fictoraidd a hanesyddol y Tram. Fodd bynnag, gellir gadael y rhain yn ddiogel ar y platfform wrth i chi fwynhau eich taith yno ac yn ôl ar y tram; bydd staff yn eich helpu i storio eich eiddo.
Pramiau
Dim ond lle i 3 bram sydd ar bob tram. Os bydd ei tram yn llawn efallai bydd yn rhaid i chi aros am y tram nesaf.
Mae’n rhaid tynnu babanod allan o’u pramiau/cadeiriau gwthio a rhaid i oedolyn sy’n eistedd ofalu amdanynt ar eu glin.
Cŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn deithio ar y tramiau! Gall cŵn deithio am £1.15 yr un. Cŵn tywys yn rhad ac am ddim.
Cyfleusterau
Dim ond yn yr Orsaf Hanner Ffordd a’r Ganolfan Ymwelwyr ar y Copa y ceir cyfleusterau toiled hygyrch i unigolion mewn cadeiriau olwyn.
Mae dolen wrando ar gael yn y Swyddfa Docynnau yng Ngorsaf Fictoria.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am deithio ar y Dramffordd, cysylltwch â ni drwy ffonio neu e-bostio a bydd ein staff yn fwy na hapus i roi cyngor i chi am y cyfleusterau sydd ar gael, yn ogystal â rhoi gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd y safle a’r amser gorau i drefnu eich taith.
Ffôn: (01492) 577877
E-bost: tramwayenquiries@conwy.gov.uk