Great Orme Tramway

Croeso i Dramffordd y Gogarth

Bydd Tramffordd y Gogarth yn agor ar 23 Mawrth!

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn ymweld ar y Gwybodaeth i Ymwelwyr

- – - – - – - – - – - – - – - – - – - – - -

Tramffordd y Gogarth ydi’r unig system dramiau cebl ar ffyrdd cyhoeddus ym Mhrydain. Mae hi wedi bod yn swyno ymwelwyr ers iddi agor ym 1902.

Mae’r dramffordd yn dringo filltir (1500 metr) i Barc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth, ac ymlaen at y copa bendigedig. Dyma gyfle i brofi ffordd o deithio sy’n fwy na chan mlwydd oed, a hynny yn y cerbydau gwreiddiol, pob un wedi ei adnewyddu’n ofalus a’i enwi ar ôl sant.

Mae’r daith unigryw yn cychwyn yng Ngorsaf Victoria sydd dafliad carreg o lan y môr Llandudno a’r pier.

Mae harddwch deinamig, hanes cyfoethog ac ysblander naturiol y Gogarth yn gwneud taith yno yn werth chweil.

Gostyngiadau arbennig ar gael ar gyfer Ysgolion a Grwpiau o 10 neu fwy.

Dewch i weld sut mae pobl wedi teithio ers can mlynedd a mwy ar dramffordd unigryw a hanesyddol Llandudno.

I ddod o hyd i ni, rhowch ein cyfeiriad a’n cod post i mewn i’ch dyfais llywio â lloeren:

Gorsaf Fictoria, Church Walks,
Llandudno, Conwy, LL30 2NB

I dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â ni!

  • Facebook
  • Email
  • Trip Advisor

Dysgwch fwy am hanes cyfoethog y dramffordd.

Teithiwch drwy linell amser rhyngweithiol, o 1902 hyd heddiw!

Sut mae'r dramffordd odidog yn gweithio?

Gadewch i ni ddangos i chi sut mae’r rhyfeddod hanesyddol a mecanyddol yma’n gweithio!

Mae cymaint i'w ddysgu a'i wneud ar y Gogarth.

Mae digon o bethau diddorol i ysgolion a grwpiau eu darganfod a threulio’r diwrnod cyfan yma!