Great Orme Tramway

Hanes

Llinell Amser y Dramffordd

Mae hanes hir a chyfoethog i Dramffordd y Gogarth, sydd wastad wedi bod yn rhan bwysig o dref Llandudno. Mae’r stori’n dechrau ym 1898 gyda Deddf Tramffyrdd y Gogarth, ac yna daeth y rhyfeloedd, perchnogion newydd, adnewyddu a newid gyda’r oes hyd heddiw.

Defnyddiwch y llinell amser isod i lywio drwy hanes y dramffordd!

  • 1898

    Yn y flwyddyn hon pasiwyd Deddf Tramffyrdd y Gogarth a oedd yn pennu hyd a lled y dramffordd yn ogystal â phrisiau’r tocynnau. Pwrpas y dramffordd yn wreiddiol oedd cludo teithwyr, nwyddau a pharseli i fyny ac i lawr y Gogarth.

  • 1901

    Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r dramffordd ym mis Ebrill. R White a’i Fab o Widnes oedd y contractwyr ar gyfer y cledrau, peiriannau a’r tramiau a Thomas a John Owen o Landudno oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.

  • 1902

    Wedi prynu eu tocynnau, aeth y teithwyr cyntaf ar y Dramffordd ar 31 Gorffennaf. Aethant ar eu taith gyda Band y Dref yn canu God Save the King yn y cefndir. Pryd hynny, dim ond rhan isa’r trac oedd wedi’i gwblhau.

  • 1903

    Agorodd rhan ucha’r dramffordd i’r cyhoedd ar 8 Gorffennaf a daeth pobl yn llu o bob cwr o’r wlad i Ben y Gogarth. Bu’r Dramffordd hefyd hyd yn oed yn cludo eirch i’r Orsaf Hanner Ffordd i’w claddu ym mynwent Eglwys Sant Tudno. Nid oedd fawr o gydymdeimlad bryd hynny – codwyd y pris llawn ar y galarwyr, yn ogystal â dau swllt a chwe cheiniog (12 ceiniog a hanner) am gludo’r arch!

  • 1904

    Adeiladwyd Gorsaf Fictoria yn Church Walks ar safle Gwesty Fictoria.

  • 1932

    Trychineb. Wedi cludo dros 3,750,000 o deithwyr yn ddiogel am ddeng mlynedd ar hugain, fe dorrodd bar llusgo un o dramiau’r rhan isaf oedd yn dal y cebl tynnu’n sownd wrth y tram ac fe redodd y tram oddi ar y cledrau a tharo i mewn i wal gerrig. Lladdwyd gyrrwr y tram a merch deuddeg oed, ac anafwyd nifer o’r teithwyr eraill. Gwnaethpwyd cyhuddiadau o esgeulustod ac roedd pobl yn bygwth hawlio iawndal, ac arweiniodd hynny at orfod dirwyn y cwmni i ben a’i werthu. Newidiodd y perchnogion newydd enw’r cwmni i’r Great Orme Railway Company Ltd.

  • 1934

    Ail-agorwyd y dramffordd i’r cyhoedd gyda mesurau diogelwch llym newydd. Roedd mor boblogaidd ag erioed a bu’n dal i redeg gydol yr Ail Ryfel Byd.

  • 1949

    Ar 1 Ionawr 1949 cymerodd Cyngor Dosbarth Trefol Llandudno reolaeth dros y dramffordd.

  • 1957

    Yng Ngorsaf Hanner Ffordd, disodlwyd yr hen beiriannau stêm gan beiriannau trydanol mwy effeithlon.

  • 1974

    Yn dilyn ad-drefnu’r llywodraeth leol, trosglwyddydd y dramffordd i Gyngor Sir Aberconwy.

  • 1977

    Cafodd y dramffordd ei henw gwreiddiol yn ôl, sef Tramffordd y Gogarth. Mae bellach yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel rhan unigryw a gwerthfawr o dreftadaeth Llandudno.

  • 1999

    Cymeradwyodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri grant adnewyddu gwerth miliwn o bunnau i gadw treftadaeth y dramffordd.

  • 2000

    Dyfarnodd yr Undeb Ewropeaidd filiwn arall a bu i’r Cyngor Sir ymrwymo i roi dwy filiwn o bunnau ar gyfer ei chynnal a’i chadw.

  • 2001

    Wedi cryn ailwampio, agorwyd yr Orsaf Hanner Ffordd ar ei newydd wedd. Yma mae offer halio’r dramffordd, sydd i’w weld drwy’r ffenestr wrth i chi newid tramiau. Yma hefyd mae arddangosfa ddiddorol ar hanes y dramffordd.

  • 2002

    Tramffordd y Gogarth yn dathlu can mlynedd. Can mlynedd o wasanaeth, ac yn barod am gan mlynedd arall!

  • 2012

    Y dramffordd yn dathlu cant a deg o flynyddoedd mewn steil gyda chyn-Gyhoeddwr y Dref, David Price, yn hysbysu trigolion am y dathliadau! Bu farw David yn 2013 ond mae cof da amdano fel rhan bwysig o hanes Llandudno.

  • 2023

    Mwy na 120 o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r dramffordd mor boblogaidd ag erioed, gan gludo tua 190,000 o ymwelwyr o bob oed a chenedl i ben y Gogarth bob blwyddyn. Mae’r ymwelwyr yn dal yn medru mynd ar yr un daith unigryw â theithwyr Oes Fictoria amser maith yn ôl.