Great Orme Tramway

Ysgolion a Grwpiau

Yn galw holl athrawon ac arweinwyr grwpiau!

Wrth drefnu taith ar Dramffordd Pen y Gogarth fe gaiff ysgolion neu grwpiau ddiwrnod llawn cyffro.

Yn ogystal â theithio ar y tramiau, mae llond lle o bethau i’w gwneud ar Ben y Gogarth, fel chwilota yn yr hen fwyngloddiau a gwibio i lawr y llethr sgïo! Bachwch ar gyfle i ddysgu am hanes lleol, daearyddiaeth, peirianneg a bywydeg.

Cysylltwch ag un o’n hymgynghorwyr lleol i drefnu’ch taith heddiw!

Cy: Copper Mines

Ymweliad â'r mwyngloddiau copr oes efydd

Dyma un o safleoedd archeolegol pwysicaf y genedl, a’r mwynglawdd Oes Efydd mwyaf yn y byd. Bydd y plant yn cael clywed am hanes y mwynglawdd a gweld ffilm fer cyn gwisgo’u hetiau caled a mwynhau taith dywys i lawr i’r mwyngloddiau, a oedd yno cyn y Rhufeiniaid. Mae’r mwyngloddiau bum munud i ffwrdd o’r Orsaf Hanner Ffordd ac mae yno le dan do a’r tu allan i fwyta’ch cinio.

Ewch i wefan mwynglawdd copr

Environmental Group

Taith gerdded amgylcheddol

Cael y Cerdyn Llwybr ar gyfer y Llwybr Natur o gopa’r Gogarth – gan gynnwys Ysbïwr Ditectif Llwybr Natur

Gweld ein Canllaw’r Gogarth gyda gwybodaeth am fywyd gwyllt, hanes a daeareg.

Prisiau tocynnau Ysgol

Tramffordd dwy ffordd (3 – 16) – £6.50

1 oedolyn yn teithio am ddim gyda phob 8 plentyn.

Bydd unrhyw oedolyn ychwanegol yn talu’r gyfradd ar gyfer ysgolion.

Sut i Archebu

Os hoffech chi drefnu ymweliad grŵp i Dramffordd y Gogarth defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Ffon: 01492 577877
Ebost: tramwayenquiries@conwy.gov.uk

Unwaith rydych chi wedi archebu, byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb a dogfen asesu risg grŵp. Fe sylwch wrth ddarllen eich llythyr cadarnhad ein bod ni’n wasanaeth cyhoeddus ac felly na allwn sicrhau y cewch chi deithio ar y dramffordd ar yr amser y bu i chi nodi. Fodd bynnag, i sicrhau eich bod yn teithio ar amser ceisiwch gyrraedd 10/15 munud yn gynt.

Ydych chi’n dod yma ar fws?

Gofynnwch i’ch gyrrwr eich gollwng yn Prince Edward Square (gweler y map isod) sydd wrth ymyl Pier Llandudno ac sy’n oddeutu 5 munud ar droed o’r dramffordd. Ewch ar hyd Church Walks a bydd y dramffordd ar y dde.

Map o'r dramffordd a'r ardal gyfagos

Gweld y Map Llawn a’r Allwedd neu Lawrlwytho Map PDF

Llenwch ein arolwg boddhad cwsmer, byddem yn falch o glywed gennych chi. PDF