Great Orme Tramway

Y Gogarth

Mae cymaint i'w ddarganfod

Mae’r golygfeydd o gopa 679 o droedfeddi (207m) y Gogarth yn syfrdanol – o Eryri ac Ynys Môn, yr holl ffordd i Ynys Manaw, Blackpool ac Ardal y Llynnoedd.

Mae harddwch deinamig, hanes cyfoethog ac ysblander naturiol y Gogarth yn gwneud taith yno yn werth chweil.

Cymerwch amser i archwilio’r Gogarth a’i mwyngloddiau Copr anhygoel o’r Oes Efydd, caer Oes yr Haearn, gweddillion o Oes y Cerrig neu Eglwys Sant Tudno o’r 6ed ganrif. Ar eich taith, chwiliwch am y Geifr Kashmir gwyllt neu’r gloynnod byw Glesyn Serennog prin.

Mae cymaint i’w wneud

Os ydych yn teimlo’n egnïol, ewch am dro ar hyd y milltiroedd o lwybrau troed, a mwynhau’r golygfeydd o’r ardaloedd cyfagos. Ewch â phicnic gyda chi a mwynhewch y lle chwarae neu hyd yn oed gael rownd o mini golff.

Gweld ein Canllaw’r Gogarth gyda gwybodaeth am fywyd gwyllt, hanes a daeareg.

Cael y Cerdyn Llwybrau ar gyfer y Llwybr Hanesyddol i lawr o gopa’r Gogarth

Cael y Cerdyn Llwybr ar gyfer y Llwybr Natur o gopa’r Gogarth – gan gynnwys Ysbïwr Ditectif Llwybr Natur