Great Orme Tramway

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Rhagolwg o'ch ymweliad

Taith unigryw

Dewch i weld sut mae pobl wedi teithio ers can mlynedd a mwy ar dramffordd unigryw a hanesyddol Llandudno.

Mae’r daith yn cychwyn yng Ngorsaf Victoria sydd dafliad carreg o lan y môr Llandudno a’r pier. Dewch i mewn i un o’r cerbydau godidog a dechrau dringo i fyny ffyrdd troellog Pen y Gogarth.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn dod

  • Nid yw’n bosibl archebu tocynnau ymlaen llaw.
  • Efallai y bydd yn rhaid rhoi’r gorau i werthu tocynnau dwyffordd ar ôl 3pm i sicrhau bod yr holl deithwyr yn gallu dod yn ôl o’r Copa.
  • Gallwch ddod â chadair olwyn ddi-bŵer sy’n plygu neu bram fechan sy’n plygu ar y tram.
  • Ni allwn dderbyn cadeiriau olwyn trydan neu sgwteri symudol.
  • Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a roddir gan staff y dramffordd. Mae hyn er mwyn sicrhau eich diogelwch chi.

Yn arddangosfa’r Orsaf Hanner Ffordd fe gewch chi gyfle i ddysgu ychydig o hanes hynod y beirianneg Oes Fictoria a gweld y system halio bwerus ar waith cyn ichi newid tram. Yna fe ewch yn eich blaen i’r copal le mae’r golygfeydd yn wefreiddiol.

Ar ddiwrnod clir, fe allwch chi weld cyn belled ag Ynys Manaw, Blackpool ac Ardal y Llynnoedd!

Ar ôl cyrraedd y copa, camwch oddi ar y tram ac mae’r byd yn eiddo i chi: gallwch ymweld â’r arddangosfa yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth, cael picnic ar un o’r nifer o fyrddau picnic, cael diod a byrbryd yng Nghanolfan Pen y Gwylfryn, chwarae efo’r plant yn y maes chwarae awyr agored mawr a dilyn un o nifer o deithiau cerdded ar y Gogarth. Fel arall, fe allwch chi eistedd i lawr, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog o’ch cwmpas.

Beth am fentro i’r mwynfeydd copr rhyfeddol (tro 5 munud o’r Orsaf Hanner Ffordd) neu i’r hen gaer, y ddau’n dyddio o’r oesoedd Celtaidd? Beth am fynd i weld olion Oes y Cerrig neu eglwys Sant Tudno o’r 6ed ganrif?

Cyn i chi adael, peidiwch ag anghofio galw yn y siop yn y Ganolfan Ymwelwyr, i nôl cofrodd swyddogol o’ch taith.

Amseroedd y Tramiau

Ar ba adeg o'r flwyddyn y mae'r dramffordd ar agor?

O gynnar mis Ebrill drwy'r haf

(ar gyfer dyddiadau penodol ffoniwch 01492 577877 neu e-bostiwch ni)

Sawl diwrnod yr wythnos y mae'n gweithredu?

7 diwrnod yr wythnos.

Pa adeg o'r dydd?

10am tan 6pm

(rydym ni’n cau am 5pm yn ystod mis Mawrth)

I dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â ni!

  • Facebook
  • Email
  • Trip Advisor

Prisiau tocynnau

Oedolion - £10.50 / £11.50

Plant (3-16 oed) - £7.50 / £8.65

Tocyn teulu a thocyn taith sengl ar gael hefyd

Pob prisau tocynnau

Mynediad

Oherwydd cynllun Fictoraidd y tramiau, bydd rhai ymwelwyr gydag anableddau’n ei chael hi’n anodd eu defnyddio.

Edrychwch ar ein datganiad mynediad neu ffoniwch ni am fwy o fanylion.

Mae lle ar bob tram i ddwy gadair olwyn neu i ddau o bramiau wedi eu plygu. Gyrrwr y tram sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch mynediad. Cofiwch, chi sy’n gyfrifol am unrhyw bethau’r ydych chi’n eu gadael ar y tram ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt.

Eisiau dod â’ch ci efo chi?

Peidiwch â phoeni, mae croeso i gŵn ar dennyn deithio ar y tramiau!

Cŵn tywys yn rhad ac am ddim.

Ydych chi wedi colli rhywbeth ar y dramffordd?

Ffoniwch ni ar (01492) 577 877 neu e-bostiwch tramwayenquiries@conwy.gov.uk