Great Orme Tramway

Sut mae'n gweithio

Deall y system halio

Mae Tramffordd y Gogarth yn gweithio drwy system halio sy’n cael ei gweithredu gan ddynion y winsh a’r gyrwyr. Dyma sut mae’n gweithio:

Ond mae ar y tram sy’n teithio i fyny angen llawer o help. Mae’n amhosibl i unrhyw gerbyd trwm ddringo llethr mor serth yn erbyn disgyrchiant heb bŵer i’w helpu. Mae rhywfaint o’r pŵer yma i’w gael gan y tram sy’n teithio ar i lawr.

Mae’r tramiau wedi eu cysylltu gan gebl sy’n ei gwneud hi’n bosibl i’r tram sy’n mynd i lawr i dynnu’r llall i fyny.

Rheolir y dramffordd o dŷ’r injan yn yr Orsaf Hanner Ffordd. Pan fyddwch chi’n mynd yno edrychwch i weld yr injans trydan nerthol, y werthydau a’r ceblau sydd wedi eu clymu’n sownd yn y tramiau. Fan hyn hefyd mae dau ddyn y winsh yn rheoli’r injans trydan, y naill ar gyfer rhan ucha’r trac a’r llall ar gyfer y rhan isaf.

Ar system halio fel Tramffordd y Gogarth, mae’r tram sy’n teithio ar i lawr yn symud yn rhwydd i lawr y trac. Mae’r graddiant a’r disgyrchiant yn helpu’r tram ar ei ffordd.

Yn y Cwt Halio ar y copa, mae yna werthyd halio fawr gyda chebl wedi ei lapio o’i amgylch nifer o weithiau. Mae hyn yn creu digon o ffrithiant i’r brêc arafu’r tramiau heb i’r cebl lithro.

Edrychwch drwy ffenestr yr ystafell reoli a byddwch yn fy ngweld i. Fi ydi dyn y winsh sy’n wynebu ar i lawr. Rydw i’n eistedd wrth ymyl yr injan drydan, sef yr injan rydw i’n ei rheoli. O’m blaen mae panel rheoli gyda llawer o fotymau a goleuadau.

Drwy’r panel yma rydw i’n derbyn negeseuon gan yrwyr y tramiau yn nodi pryd i gychwyn, arafu a stopio’r tramiau.
Wrth ymyl fy llaw dde mae yna lifer sy’n rheoli cyflymder yr injan ac felly cyflymder y tramiau.

Pan fyddaf yn derbyn dau olau parod gan yrwyr y tramiau sy’n mynd i lawr ac i fyny, rydw i’n gollwng y brêc yn araf ac yn dechrau’r injan. Rydw i wedyn yn codi cyflymder y tramiau yn ara’ deg.

Rydw i’n arafu’r tram sy’n teithio ar i lawr wrth iddo agosáu at y goleuadau traffig a’r groesffordd, ond mae’n rhaid i mi hefyd fod yn barod ar gyfer brecio mewn argyfwng. Mae’n rhaid i mi ganolbwyntio drwy’r amser a chadw llygad ar y panel rheoli.

Er mwyn fy helpu i wybod pryd mae’r tramiau yn agosáu at y gorsafoedd mae marciau melyn wedi’u peintio ar y gwerthyd a’r cebl. Pan fydd y marciau yn cwrdd, rydw i’n gwybod bod y tram yn dynesu at Orsaf Fictoria ac y gallaf i ddiffodd yr injan a gwasgu’r brêc er mwyn stopio’r tram yn araf.

Fi ydi dyn y winsh sy’n wynebu ar i fyny. Rydw i hefyd yn gwylio am y negeseuon ar fy mhanel rheoli ond mae gen i hefyd deledu sy’n gadael i mi weld y tramiau yn ystod rhannau o’u taith.

Mae’r gyrwyr a minnau’n gorfod cadw golwg fanwl ar bethau ar ran ucha’r trac oherwydd ei fod o’n mynd ar draws rhostir agored. Dydi’r trac ddim wedi ei ffensio i ffwrdd ac fe all pobl neu anifeiliaid ei chroesi hi fel y mynnon nhw. Mae’r ceblau a’r olwynion bach y maen nhw’n gorwedd arnyn nhw ar wyneb y tir a ddim wedi eu cuddio dan y ffordd fel maen nhw ar ran isa’r daith.

Mae’n rhaid i’r gyrwyr fwrw golwg hefyd ar liferi’r pwyntiau sydd i’w gweld mewn cewyll wrth y trac. Mae’n rhaid i’r liferi fod yn y lle cywir cyn bod modd i’r tramiau fynd heibio. Y rhifau ar y liferi ydi rhifau’r tramiau.

Mae yna wahaniaeth arall rhwng rhan uchaf a rhan isaf y daith. Ar dramiau’r rhan isaf mae yna ddau gebl – un cebl o’r werthyd i bob tram.

Ar ran uchaf y daith mae yna dri chebl – un o’r werthyd i bob tram ac un cebl arall sy’n cysylltu’r tramiau efo’i gilydd. Mae’r trydydd cebl yma’n dirwyn drwy bwli yng ngorsaf Pen y Gogarth ac felly mae’r tram sy’n dod i lawr yn tynnu’r tram arall i fyny.

Yn aml, tua diwedd dydd, mae mwy o bobl am ddod i lawr o orsaf Pen y Gogarth nag sydd am fynd i fyny o’r Orsaf Hanner Ffordd. Mae hyn yn golygu bod y tram sy’n dod ar i lawr yn drymach o lawer na’r un sy’n mynd i fyny. Mi fydda i’n cael gair gyda’r gyrrwr i weld faint o deithwyr sydd ar y tram ac os oes ganddo fwy nag sy’n dod i fyny mi fydda i’n dweud wrtho am ddefnyddio brêcs ei dram wrth iddo ddod i lawr. I wneud hyn mi fydd yn troi olwyn y brêc ar du blaen y tram. Os nad oedd o’n gwneud hynny mi fyddai’r tram oedd yn mynd ar i lawr yn mynd yn gynt na’r werthyd weindio ac mi fyddai’r cebl yn mynd yn llac ac yn anodd ei drin.

Fi ydi’r dyn sy’n sefyll yn nhu blaen pob tram. Bydd pobl yn fy ngalw i’n yrrwr y tram. Dydw i ddim yn yrrwr go iawn oherwydd bod dim injan na gêrs, dim sbardun a dim nerth gan y tram ei hun i ddringo’r trac a’r elltydd.

Fi ydi llygaid y dyn sy’n rheoli’r injan drydan yn nhŷ’r injan. Fedr o ddim gweld y tramiau wrth iddyn nhw deithio i fyny ac i lawr. Y fi sy’n dweud wrtho pa bryd i ddechrau’r injan, pa bryd i arafu a pha bryd i stopio.Mae gen i banel rheoli o’m mlaen i. Mae pwyso botymau ar y panel yn gyrru neges i ddyn y winsh i ddweud wrtho beth rydw i am iddo’i wneud.

fydd pawb wedi dringo i’r tram yng Ngorsaf Fictoria mi fydda i’n rhoi’r goriad yn y panel rheoli. Mi fydda i’n pwyso’r botwm sy’n gyrru’r neges i ddyn y winsh ein bod ni’n barod i ddechrau ac mi fydd o’n dechrau’r injan. Ac i ffwrdd â ni i fyny’r Hen Ffordd. Mae hon yn ffordd gyhoeddus ac felly mae’n rhaid i mi gadw golwg rhag pobl a cheir. Dydi ceir ddim i ddefnyddio’r ffordd pan fydd y tramiau’n ei defnyddio hi ond mae’n rhaid i mi fod yn ofalus ‘run fath.

Ym mhen ucha’r Hen Ffordd mae yna le o’r enw’r ‘Giât Ddu’ lle mae ffordd gyhoeddus arall yn croesi’r trac. Mae yna oleuadau traffig fan hyn i reoli’r traffig ar y groesffordd. Does dim rhaid i’r tram aros fan hyn – mae ganddo ‘flaenoriaeth dros ddefnyddwyr ffordd eraill’ sy’n golygu bod yn rhaid i bopeth arall aros i adael i’r tram groesi.

Diogelwch ar y Dramffordd

Mae diogelwch yn fater o’r pwys mwyaf i Dramffordd Pen y Gogarth, ac felly gallwch fod yn dawel eich meddwl ar eich taith.

Wrth weithredu’r dramffordd rydym yn bodloni ein safonau llym ein hunain a rhai rheoleiddwyr allanol. Mae’r cerbydau, y cledrau a’r systemau’n cael eu harolygu a’u trin yn rheolaidd, ac mae’r staff wedi cael llawer iawn o hyfforddiant.

Nid yw’r tramiau’n mynd yn gynt na phedair milltir yr awr i fyny ac i lawr yr allt. Mae’r staff yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’i gilydd drwy’r amser. Pe byddai rhywbeth yn digwydd, byddai dynion y winsh a’r gyrwyr yn medru rhoi’r neges fod angen stopio’r tram. Yna byddent yn defnyddio’r brêc i stopio’r tram yn stond. Pe byddai rhywbeth yn mynd o’i le â’r cebl sy’n halio’r tram, byddai’r brêcs yn dod â phopeth i stop yn awtomatig ymhen metr.

Mae nifer o bethau y gall teithwyr eu gwneud hefyd i sicrhau taith ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Aros mewn rhes daclus cyn i’r tram gyrraedd
  • Bod yn ofalus wrth esgyn i’r cerbyd a disgyn ohono – os ydych chi’n cael trafferth, byddwn wrth law i’ch helpu chi
  • Aros yn eu seddi pan fydd y cerbyd yn symud
  • Cadw’u dwylo a’u pennau y tu mewn i’r cerbyd bob amser
  • Gwisgo dillad addas i’r tywydd gan nad oes ffenestri gwydr ar y tramiau.