Ysgolion a Grwpiau
Yn galw holl athrawon ac arweinwyr grwpiau!
Wrth drefnu taith ar Dramffordd Pen y Gogarth fe gaiff ysgolion neu grwpiau ddiwrnod llawn cyffro.
Yn ogystal â theithio ar y tramiau, mae llond lle o bethau i’w gwneud ar Ben y Gogarth, fel chwilota yn yr hen fwyngloddiau a gwibio i lawr y llethr sgïo! Bachwch ar gyfle i ddysgu am hanes lleol, daearyddiaeth, peirianneg a bywydeg.
Cysylltwch ag un o’n hymgynghorwyr lleol i drefnu’ch taith heddiw!